4 Rhagfyr 2017
Annwyl Aelod Cynulliad,
Cyfarfu'r Bwrdd Taliadau ar 23 Tachwedd 2017. Rhoddir crynodeb yma o'i drafodaeth a'i benderfyniadau, a diweddariad byr am ei raglen waith.
Roeddwn i a fy nghyd-aelodau o'r Bwrdd yn drist o glywed am farwolaeth Carl Sargeant. Anfonwn bob cydymdeimlad dwys at deulu, ffrindiau a chydweithwyr Carl.
Trefniadau ar gyfer adrodd am ymddygiad amhriodol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
Trafododd y Bwrdd y datblygiadau diweddaraf o ran y gwaith sy'n cael ei wneud ynghylch adrodd am ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad Cenedlaethol. Croesawyd y Bwrdd y datganiad diweddar a gyhoeddwyd gan y Llywydd, arweinwyr grwpiau'r pleidiau a Chadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, gan gytuno â'r datganiad
Yn dilyn fy nghyfarfod yr un diwrnod gyda'r Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, bydd y Bwrdd yn gweithio'n agos gyda Chomisiwn y Cynulliad a'r Pwyllgor i ddatblygu Polisi Parch ac Urddas sy'n egluro'r ymddygiad a ddisgwylir gan bawb sy'n gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn ogystal â sicrhau bod yr holl gefnogaeth a gweithdrefnau y mae'r Bwrdd yn eu goruchwylio yn cydblethu'n ffurfiol â'r polisi newydd hwn. Mae'r Bwrdd hefyd wedi ymrwymo i adolygu ymhellach y polisïau a'r gweithdrefnau sydd ar waith ar gyfer Staff Cymorth a gweithio gyda'r aelodau hyn o staff i sicrhau bod y darpariaethau sydd ar waith yn gadarn, yn hygyrch ac yn addas at y diben.
Adolygu'r cymorth staffio i’r Aelodau
Trafododd y Bwrdd gamau nesaf ei adolygiad o'r cymorth staffio i'r Aelodau. Cytunodd y Bwrdd y bydd yn dechrau casglu tystiolaeth drwy arolwg a fydd yn cael ei anfon i'r holl Aelodau a Staff Cymorth ym mis Rhagfyr, yn ogystal â chynnal cyfweliadau ansoddol gyda sampl o Aelodau a Staff Cymorth yn y flwyddyn newydd. Bydd y Bwrdd yn ysgrifennu atoch maes o law yn amlinellu sut y gallwch rannu'ch barn fel rhan o'r adolygiad.
Mae'n fwriad gan y Bwrdd i gyflwyno set o argymhellion i ymgynghori arnynt â rhanddeiliaid yn haf 2018. Caiff ei adroddiad terfynol ei gyhoeddi yn nes ymlaen yn 2018. Bydd y Bwrdd yn rhoi diweddariadau rheolaidd i'r Aelodau a'r Staff Cymorth wrth i'r adolygiad fynd yn ei flaen.
Materion eraill
Nododd y Bwrdd effaith aildrefnu'r Cabinet Llywodraeth Cymru yn ddiweddar ar y symiau a ddyrennir i grwpiau o dan lwfansau'r pleidiau gwleidyddol y darperir ar eu cyfer yn y Penderfyniad. Hoffai'r Bwrdd atgoffa'r Aelodau y gall y tîm Cymorth Busnes i'r Aelodau ddarparu rhagor o wybodaeth ac arweiniad ynghylch sut y caiff y lwfans ei ddyrannu.
Caiff y llythyr hwn ei gyhoeddi ar ein gwefan hefyd, yn ôl ein harfer.
Os hoffech drafod unrhyw fater gyda mi, neu gydag un o'm cyd-aelodau ar y Bwrdd, mae croeso ichi gysylltu â mi drwy’r ysgrifenyddiaeth.
Cofion gorau,
Y Fonesig Dawn Primarolo
Cadeirydd
Y Bwrdd Taliadau